Blue Light Aware

Yr adnodd i godi ymwybyddiaeth am gerbydau’r gwasanaethau brys ar y ffyrdd.

Mae Blue Light Aware yn adnodd sy’n cynnwys fideos byrion ac animeiddiadau sydd wedi eu seilio ar y canllawiau a gawn yn Rheolau’r Ffordd Fawr. Cafodd ei gynhyrchu ar ran y gwasanaethau brys am fod y gweithwyr hyn yn dibynnu ar gymorth defnyddwyr eraill y ffordd pan maen nhw ar daith ‘golau glas’. Os cymerwch chi’r amser i wylio Blue Light Aware byddwch yn deall yn well beth yw anghenion y gyrwyr brys, ac yn gostwng y risgiau a wynebwch chi; gan helpu i greu amgylchedd mwy diogel ar y ffyrdd. Efallai hefyd y byddwch yn helpu i arbed bywyd…

Methu gweld y fideo? Ceisiwch ganiatâu cwcis neu wylio ar YouTube

Rhannu’r fideo hwn

Traffyrdd clyfar

Ar draffordd glyfar, efallai y bydd un neu fwy o’r lonydd wedi cau am fod rhywbeth wedi digwydd ymhellach i lawr y ffordd – byddwch yn gwybod hynny oherwydd yr arwyddion X coch uwchben y gerbytffordd. Bydd cerbydau brys yn defnyddio’r lonydd hyn os gallant. Cadwch allan o’r lonydd X coch yma. Os na fydd hi’n ymddangos bod lonydd ar gau, gallwch helpu i ffurfio’r hyn a alwn yn goridor argyfwng, felly byddwch yn barod i symud i’r dde neu i’r chwith.

Rhannu’r fideo hwn

Goleuadau traffig

Wrth y goleuadau traffig bydd y cerbydau brys yn canfod eu ffordd o’ch cwmpas chi. Os ydych chi ar flaen y rhes wrth olau coch, arhoswch le’r ydych a gadewch i’r cerbyd brys ganfod ei ffordd o’ch cwmpas. Peidiwch â mynd heibio i’r llinell stopio heblaw bod swyddog heddlu mewn lifrai yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.

Rhannu’r fideo hwn

Ymhle i stopio

Os byddwch chi’n clywed seiren neu’n gweld goleuadau glas, peidiwch â chyffroi. Chwiliwch am rywle diogel i symud i’r chwith a stopio. Daliwch ymlaen i yrru os ydych yn dynesu at dro yn y ffordd neu’n dod at ael bryn – yna symudwch draw i stopio pan fyddwch chi’n gallu gweld yn well o’ch blaen. Peidiwch â mynd i lonydd bysiau, peidiwch â mynd ar y cwrb na’r palmant, a pheidiwch â stopio wrth ynys draffig.

Rhannu’r fideo hwn

Digwyddiadau ar y draffordd

Weithiau mae cerbydau brys a cherbydau awdurdodau’r priffyrdd yn stopio mewn lôn ar draffordd neu ffordd ddeuol, efallai i ddiogelu cerbyd sy’n methu symud neu i dynnu malurion o’r ffordd. Chwiliwch am arwydd gantri gydag X coch arno, neu gyfarwyddyd i symud i lôn arall, a dilynwch unrhyw arwyddion sydd i’w gweld ar gefn y cerbyd traffig.

Rhannu’r fideo hwn

Llinellau gwyn solet

Mewn system linellau gwyn solet, mae’n debyg y bydd y cerbyd brys yn diffodd ei seiren wrth iddo eich dilyn. Y rheswm am hynny yw nad yw cynllun y ffordd yn rhoi cyfle diogel iddo eich pasio. Felly, daliwch i fynd – ar y terfyn cyflymder os yw’n ddiogel i chi wneud hynny – nes byddwch wedi pasio’r llinellau gwyn solet. Eich cliw i dynnu i’r chwith a gadael iddo basio yw pan fydd yn ail gychwyn y seiren.

Rhannu’r fideo hwn

Ar gylchfan neu gyffordd

Os ydych yn dynesu at gylchfan neu gyffordd ac rydych yn gweld cerbyd brys, edrychwch ar ei safle ar y ffordd. Bydd hynny’n gadael i chi wybod lle mae eisiau i chi fynd. Os ydych ar y gyffordd yn barod, byddwch yn amyneddgar ac arhoswch iddo ddod heibio. Efallai bod mwy nag un cerbyd argyfwng, felly edrychwch am ragor cyn ail ddechrau gyrru.  

Rhannu’r fideo hwn

Arafwch, symudwch i’r ochr

Pan fydd cerbyd wedi torri ar draffordd neu ffordd ddeuol mae’n sefyllfa sy’n achosi pryder ac sy’n gallu bod yn beryglus – i’r gweithwyr adfer ac i’r bobl sydd yn y cerbyd. Os gwelwch chi gerbyd sy’n methu symud neu waith adfer yn digwydd ar y llain galed, helpwch i gadw pawb yn ddiogel drwy arafu a symud i’r dde.

Rhannu’r fideo hwn

Traffyrdd a ffyrdd deuol

Ar draffyrdd a ffyrdd deuol, symudwch draw i’r chwith i adael i gerbyd brys eich pasio yn y lôn allanol os yw’n glir. Os bydd y traffig yn arafu neu wedi stopio a does dim lôn i’r cerbyd brys, bydd ei safle ar y ffordd yn gadael i chi wybod a ddylech chi symud i’r dde neu i’r chwith. Pan fyddwch wedi gadael i’r cerbyd basio, arhoswch le’r ydych oherwydd mae’n debyg y bydd cerbydau eraill yn dod hefyd.

Rhannu’r fideo hwn

Digon o le

Mae cerbydau brys o bob maint a siâp i’w cael felly, os byddwch chi’n stopio, gwnewch yn siŵr bod y bwlch pasio’n ddigon mawr. Edrychwch i weld a oes mwy nag un cerbyd brys yn dod. A phryd bynnag y byddwch chi’n parcio, gwnewch yn siŵr na fyddwch chi’n achosi rhwystr a allai arafu cerbyd brys.

Rhannu’r fideo hwn

Rhwystrau treigl ar y ffordd

Weithiau, pan fydd rhywbeth wedi digwydd ar y ffordd, mae cerbydau’r heddlu ac awdurdodau’r briffordd yn ffurfio rhwystrau treigl. Arhoswch y tu ôl i’r cerbydau hyn nes bydden nhw’n symud i’r chwith ac mae’r digwyddiad wedi dod i ben.  Peidiwch â phoeni, bydden nhw’n gadael i chi symud eto unwaith y bydd hynny’n ddiogel.

GEM Motoring Assist

Sefydlwyd GEM Motoring Assist fel cymdeithas diogelwch ar y ffyrdd yn 1932. Mae wedi bod yn gwmni adfer annibynnol a dibynadwy ers mwy na 40 o flynyddoedd.

Elusen Diogelwch ar y Ffyrdd GEM

Crëwyd Elusen Diogelwch ar y Ffyrdd GEM i helpu i wella diogelwch pob un ohonom sy’n defnyddio’r ffyrdd drwy roi cymorth ariannol i gefnogi prosiectau arloesol i gadw’r ffyrdd yn ddiogel.

National Highways

Mae National Highways yn gweithredu, yn cynnal ac yn gwella’r traffyrdd a’r priff ffyrdd A yn Lloegr.

Driving for Better Business

Rhaglen gan Highways England yw Driving for Better Business i godi ymwybyddiaeth pobl o’r buddion y gallai cyflogwyr eu cael drwy sicrhau rheolaeth fwy effeithiol ar yrru sy’n gysylltiedig â gwaith.

Dilynwch Blue Light Aware ar y cyfryngau cymdeithasol

Ein partner ar y we


Gyrrir Blue Light Aware gan Enbecom.